Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 20 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.52 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Gwyn R Price AC (yn lle Sandy Mewies AC) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Elaine Ballard, Taff Housing Association Norma Barry, Tai Calon Nick Bennett, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
3.1 Trafododd yr Aelodau lythyr gan yr Athro White a nodwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu adolygu'r argymhellion yn ei adroddiad yn 2011 ac yn adroddiad y Pwyllgor yn 2012. Cytunodd y Pwyllgor i ail-ystyried yr eitem hon mewn cyfarfod yn yr hydref.
4 Bodloni'r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru
4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytuno i gynnal ymchwiliad byr i'r mater yn ystod tymor yr haf.
5 Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 7
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth am gyflogau uwch-reolwyr gan Nick Bennett - Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Elaine Ballard - Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf, a Norma Barry - Cadeirydd Tai Calon.
5.2 Cytunodd Nick Bennett i anfon dadansoddiad o'r gwahaniaethau rhwng y siarter llywodraethu da presennol a'r cod drafft a fydd yn cymryd lle'r siarter.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.